Datganiad i'r wasg WPP Investments

Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru i ddechrau gweithgareddau rheoleiddiedig ar ran cleientiaid Cynllun Pensiwn Llywodraeth Lleol.

04.09.26

Mae Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru (WPP IM Co.) wedi cael ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i ddechrau gweithgareddau rheoleiddiedig.

Gan ddechrau ar unwaith, bydd WPP IM Co. yn gweithredu fel yr unig rheolwr portffolio ar gyfer yr wyth Awdurdod Cyfansoddol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru (LGPS) – gan reoli cyfanswm o asedau gwerth £28bn.

Mae deddfwriaeth Llywodraeth y DU a ddeddfwyd yn ddiweddar yn ei gwneud yn orchmynol i gronfeydd LGPS yng Nghymru a Lloegr gronni eu hasedau trwy gwmnïau rheoli buddsoddi a awdurdodwyd gan yr FCA, ac yn ogystal i ddirprwyo eu strategaeth fuddsoddi i'r cwmnïau hynny.

Dywedodd Rob Lamb, Prif Swyddog Gweithredol WPP IM Co.:

“Mae cyrraedd y garreg filltir bwysig hon yn dyst i ymdrechion ar y cyd yr holl bobl a fu’n rhan o sefydlu’r sail ar gyfer cwmni rheoli buddsoddiadau unigryw sydd wedi’i leoli yng Nghymru. Ar ran ein hwyth cyfranddalwyr Awdurdod Lleol, rydym wedi ysgwyddo cyfrifoldeb llawn – wedi’i awdurdodi gan yr FCA – am reoli buddsoddiadau a darparu gwasanaethau cynghori ar gyfer portffolio LGPS Cymru gyfan. Mae’r cwmni bellach yn canolbwyntio’n llwyr ar gyflawni ei ddyletswydd i ddiogelu pensiynau ar gyfer mwy na 410,000 o aelodau’r cynllun ac, wrth edrych i’r dyfodol, ar ddatblygu’r gallu i fuddsoddi cyfran uwch o’n cronfeydd yng Nghymru, er budd ein haelodau a’r cymunedau lle maent yn byw ac yn gweithio.”

Dywedodd Tanya Castell MBE, Cadeirydd Bwrdd WPP IM Co.:

“Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint gweithio gyda Rob a’i dîm i ddatblygu a sicrhau statws WPP IM Co. fel cwmni rheoli buddsoddiadau sydd wedi’i awdurdodi gan yr FCA. Mae ymroddiad ac ansawdd y tîm yn argoeli’n dda ar gyfer y cyfleoedd a’r heriau sydd o’n blaenau. Rwyf fi a’r Bwrdd yn edrych ymlaen at gefnogi’r tîm i sicrhau bod WPP IM Co. yn llwyddo i ddarparu canlyniadau da i aelodau’r cynlluniau pensiwn ac yn cyfrannu at economi ffyniannus yng Nghymru.”

Bydd WPP IM Co. yn gweithredu fel rheolwr buddsoddi annibynnol sy'n cael ei reoleiddio'n llawn, gyda'i bencadlys yng Nghymru ac yn atebol i'w gyfranddalwyr. Mae ei strwythur wedi'i gynllunio i fodloni gofynion yr FCA, gan gynnwys amodau trothwy sy'n ymwneud â llywodraethu, risg, cydymffurfiaeth, adnoddau a digonolrwydd cyfalaf.

DIWEDD

Bydd WPP IM Co. yn gweithredu'n unig ar ran ei wyth cleient cronfa bensiwn canlynol:- 

  • Cronfa Bensiwn Dyfed

  • Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

  • Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg

  • Cronfa Bensiwn Clwyd

  • Cronfa Bensiwn Gwynedd

  • Cronfa Bensiwn Powys

  • Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf

  • Cronfa Bensiwn Gwent Fwyaf (Torfaen)

Ynglŷn â'r LGPS

Mae'r LGPS (Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol) yn un o'r cynlluniau pensiwn mwyaf yn y DU. Fel cynllun buddion diffiniedig, mae'r LGPS yn darparu incwm diogel a gwarantedig blynyddol yn ystod ymddeolaeth, ac mae'n bodoli i wasanaethu llywodraeth leol a sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus eraill yng Nghymru ac ar draws y DU.

Cyswllt

Rhys.jones@wppinvestments.com / www.wppinvestments.com

Nodyn

Mae Wales Pension Partnership Investment Management Company Limited yn gwmni preifat cyfyngedig, wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif cofrestru 16645479. Y swyddfa gofrestredig yw Un Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FS. Wedi'i awdurdodi a'i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (rhif FRN: 1045886).

Safonau byd-eang. Pwrpas Cymraeg.

Cymraeg
Cymraeg

Gwarchod pensiynau. Cryfhau Cymru. Cysylltwch er mwyn dysgu mwy am sut rydym ni'n adeiladu dyfodol cynaliadwy gyda'n gilydd.

Cymru

12:18:35

©2025 partneriaeth bensiwn Cymru Cedwir Pob Hawl

Mae Cwmni Rheoli Buddsoddi Partneriaeth Bensiwn Cymru (“WPP”) yn gwmni preifat a gyfyngir gan fraenoriaeth, a gynhelir yng Nghymru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 (Rhif Cwmni 16645479).

Swyddfa gofrestru: Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP, y Deyrnas Gyfunol.

Mae WPP wedi'i sefydlu i weithredu fel y cwmni rheoli buddsoddi ar gyfer y tair a chweched cronfa bensiwn Llywodraeth Leol Cymru. Mae awdurdodiad gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn aros. Ni fydd y Cwmni yn cymryd unrhyw weithgareddau rheoli buddsoddi rheoledig nes y rhoddir yr awdurdodiad hwn.

Darperir y wybodaeth ar y wefan hon ar gyfer pwrpasau llywodraethu a thryloywder yn unig. Nid yw'n gyfraniad buddsoddi nac yn gynnig i brynu nac i werthu unrhyw offeryn ariannol.